Annwyl Gyfaill
Ein hymgynghoriad i eiddo gwag
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i eiddo gwag.
Cylch gorchwyl
Ymchwiliad i eiddo gwag
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw trafod:
· i ba raddau y mae eiddo gwag yn effeithio ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru;
· effaith eiddo gwag ar gymunedau yng Nghymru a’r heriau y mae awdurdodau yn eu hwynebu wrth geisio ymdrin â’r broblem hon;
· i ba raddau y mae gan awdurdodau lleol y pwerau deddfwriaethol sydd eu hangen arnynt i ymdrin ag eiddo gwag;
· esiamplau o arfer gorau wrth droi eiddo gwag yn dai fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni; ac
· i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi manteisio ar y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rhoi disgresiwn iddynt godi premiwm y dreth gyngor ar dai gwag, ac effeithiolrwydd y polisi hwn.
Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o ystyried yr ymchwiliad. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.
Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, byddai’n ddefnyddiol i gael eich sylwadau mewn perthynas â’r cwestiynau a ganlyn:
1. A oes digon yn cael ei wneud i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag yng Nghymru? Os nad oes, beth sydd angen ei newid?
2. Pa effaith y gall eiddo gwag ei chael ar gymuned?
3. Pa mor effeithiol y mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r offer statudol ac anstatudol sydd ar gael iddynt i fynd i’r afael ag eiddo gwag?
4. A oes angen pwerau statudol ychwanegol ar awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag? Os oes, pa bwerau sydd eu hangen arnynt?
5. A yw perchnogion eiddo gwag yn cael y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i ddod â thai yn ôl i feddiannaeth? Os nad ydynt, pa gymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt?
6. A oes digon o ymwybyddiaeth o’r cymorth ymarferol y gall awdurdodau lleol ei gynnig i berchnogion eiddo gwag? Os nad oes, sut y gellid gwella hyn?
7. A yw sgiliau ac adnoddau cymdeithasau tai a’r sector preifat yn cael eu defnyddio’n llawn i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag?
8. A oes digon yn cael ei wneud i sicrhau y gall eiddo gwag gael eu defnyddio unwaith eto fel cartrefi fforddiadwy? A oes enghreifftiau o arfer da yn hyn o beth?
9. A yw’r pŵer i godi premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor yn offeryn defnyddiol, ac a yw’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol? Os nad yw, sut y gellid gwneud yr offeryn hwn yn fwy effeithiol?
Dylai sylwadau gyrraedd erbyn 31 Mai 2019 fan bellaf.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Gweler y canllawiau i dystion sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.
Polisi dwyieithrwydd
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau weithredu eu safonau a’u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt a ganlyn:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA
E-bost: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Rhif ffôn: 0300 200 6565
Yn gywir,
John Griffiths AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau